Cyrsiau Uwchraddedig yn Rhad ac am Ddim
Ymunwch â ni i ddatblygu eich sgiliau
Mae’r rhaglen sgiliau yn agored i holl fyfyrwyr uwchraddedig Prifysgol Aberystwyth - Meistr, MPhil a PhD - yn rhad ac am ddim. Gallwch fynychu pob un neu rai o'r gweithdai yn unig.
Bydd deunyddiau addysgu y gweithdai, gan gynnwys recordiadau, cyflwyniadau ac adnoddau defnyddiol, ar gael trwy'r mudiad SgiliauAber/AberSkills Blackboard Learn Ultra.
Semester 2 2024 - gweithdai cyfrwng Saesneg
Dyddiad | Amser | Lleoliad | Cynnwys y gweithdy | Manylion ymuno |
---|---|---|---|---|
14/02/2024 | 14:00-15:30 |
Ar-lein drwy Teams |
Writing 6: Checkpoints in the writing process: editing and proofreading |
|
21/02/2024 | 14:00-15:30 |
Ar-lein drwy Teams |
Writing 7: Functional development of narrative structure |
|
28/02/2024 | 14:00-15:30 |
Ar-lein drwy Teams |
Writing 8: Establishing aspects of voice 1 |
|
06/03/2024 | 14:00-15:30 |
Ar-lein drwy Teams |
Writing 9: Establishing aspects of voice 2 |
|
13/03/2024 | 14:00-15:30 |
Ar-lein drwy Teams |
Writing 10: Dissertation planning part 1 |
|
20/03/2024 | 14:00-15:30 |
Ar-lein drwy Teams |
Writing 11: Dissertation planning part 2 |
Canlyniadau dysgu: Ar ôl cwblhau’r cwrs llawn disgwylir y byddwch yn gallu:
- Dadansoddi gofynion amrywiaeth o aseiniadau uwchraddedig gwahanol
- Adnabod tebygrwydd a gwahaniaethau rhwng gofynion strwythurol ac arddulliadol fformatau aseiniad gwahanol (e.e. traethodau, adroddiadau, traethodau estynedig)
- Gweithio gydag arddulliau iaith a fformatau strwythurol priodol tuag at gyd-destun ehangach cyfathrebu ag amrywiaeth o gynulleidfaoedd academaidd neu broffesiynol
- Gweithio gydag amrywiaeth ehangach o adnoddau gwybodaeth ar-lein at ddibenion ymchwil
Darperir gan y Gwasanaethau Gwybodaeth